Gwasg Carreg Gwalch

Gwasg Carreg Gwalch Llyfrau Cymraeg o bob math ar gyfer oedolion a phlant, a llyfrau Saesneg am Gymru.

20/08/2026
Llongyfarchiadau mawr, Gareth!Mae'r ddwy nofel gyntaf yn y drioleg, Y Pibgorn Hud ac Y Ferch o Aur (a'r cyfieithiadau Sa...
20/08/2026

Llongyfarchiadau mawr, Gareth!

Mae'r ddwy nofel gyntaf yn y drioleg, Y Pibgorn Hud ac Y Ferch o Aur (a'r cyfieithiadau Saesneg ohonyn nhw) ar gael yn eich siop lyfrau leol, ar Ffolio Cyngor Llyfrau Cymru / Books Council of Wales a gwefan Gwasg Carreg Gwalch, a'r drydedd i'w chyhoeddi'n fuan. Perffaith i'w darllen yn yr haul* / glaw*
(* does wybod sut fydd y tywydd ymhen hanner awr...😉)

Mae Gareth Evans yw awdur trioleg am gymuned Brythonia oedd yng ngogledd-orllewin Sbaen yn y chweched ganrif.

Roedd Haf Llewelyn  yn sgwrsio efo Gerallt Pennant ar raglen Prynhawn Da ar S4C ddoe am ei llyfr newydd i blant, Teulu: ...
19/08/2026

Roedd Haf Llewelyn yn sgwrsio efo Gerallt Pennant ar raglen Prynhawn Da ar S4C ddoe am ei llyfr newydd i blant, Teulu: Stori Plant yr Ysgwrn. Ffilmiwyd y cyfweliad yn yr Ysgwrn - mae'r blodau'n werth eu gweld yno!
Mae'r llyfr yn cyfuno stori ddychmygol drwy lygaid Gerald Williams am ei blentyndod, a darn ffeithiol am gefndir a hanes yr Ysgwrn a Hedd Wyn.
Yr Ysgwrn

Bydd Huw Fash yn dangos sut i steilio dillad du.

Glywsoch chi Myfanwy Alexander  ar raglen Heledd Cynwal ar BBC Radio Cymru y bore 'ma? Dilynwch y ddolen isod i wrando a...
16/08/2026

Glywsoch chi Myfanwy Alexander ar raglen Heledd Cynwal ar BBC Radio Cymru y bore 'ma? Dilynwch y ddolen isod i wrando ar yr awdures o Faldwyn yn trafod Parti Plu, ei nofel newydd, y ffaith iddi etifeddu coesau ei thad, a pham y methodd hi â chystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ...

Dewch i dreulio bore Sul yng nghwmni Heledd Cynwal.

LLYFR NEWYDDY Ferch ar y Traeth'Dynes ganol oed yw Bethan Morgan sy'n mynd drwy gyfnod cythryblus yn y cartref ac yn y g...
14/08/2026

LLYFR NEWYDD
Y Ferch ar y Traeth
'Dynes ganol oed yw Bethan Morgan sy'n mynd drwy gyfnod cythryblus yn y cartref ac yn y gwaith. Mae hi'n ohebydd ar raglen deledu materion cyfoes, ac mae Selwyn, ei bòs seimllyd, nawddoglyd yn dipyn o boen...'
Ar gael yn eich siop lyfrau leol rŵan

LLYFR NEWYDDArwyr Argyfwng a'r Injan Dân'Pwy'n well i ymateb i'r sefyllfa na chriw yr Arwyr Argyfwng! O dan arweiniad Me...
13/08/2026

LLYFR NEWYDD
Arwyr Argyfwng a'r Injan Dân
'Pwy'n well i ymateb i'r sefyllfa na chriw yr Arwyr Argyfwng! O dan arweiniad Med, llygoden yr injan dân, mae'r criw yn brysio i helpu Mr Anwyl i achub ei anifeiliaid bach o'r fflamau yn y siop.'
Ar gael yn eich siop lyfrau leol rŵan

Rydym yn falch iawn fod pedwar o’n llyfrau plant a phobl ifanc ymysg y gwerthwyr gorau ar gyfer mis Gorffennaf. Mae rhyw...
13/08/2026

Rydym yn falch iawn fod pedwar o’n llyfrau plant a phobl ifanc ymysg y gwerthwyr gorau ar gyfer mis Gorffennaf. Mae rhywbeth i bawb o bob oed yma! ☀️

13/08/2026

Myfanwy Alexander: y Jilly Cooper Cymraeg a'r tonic perffaith i gael gwared o'r felan ôl-Eisteddfod!
Mynnwch eich copi o Parti Plu i'w ddarllen yn yr haul...

Address

Gwasg Carreg Gwalch, 12 Iard Yr Orsaf
Llanrwst
LL260EH

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Gwasg Carreg Gwalch posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Business

Send a message to Gwasg Carreg Gwalch:

Shortcuts

Share

Category